Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Children and Young People Committee

 

 

 

 

 

10 Chwefror 2012

Annwyl Gyfaill

 

Ar 4 Hydref 2011, cafodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol ddeiseb gan elusen ganser Tenovus a oedd yn dweud:

“Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu eli haul am ddim i bob plentyn o dan 11 oed yng Nghymru.”

Cyfeiriwyd y ddeiseb i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’w hystyried. O ganlyniad, mae’r Pwyllgor wedi penderfynu cynnal ymchwiliad byr i bolisi ar amddiffyn plant rhag yr haul mewn ysgolion, a fydd yn ystyried nid yn unig a yw eli haul ar gael a’r defnydd ohono, ond hefyd faterion eraill yn ymwneud ag amddiffyn plant rhag yr haul, fel darparu cysgod mewn ysgolion a gwisgo dillad addas y tu allan.

Er mwyn cynorthwyo ymchwiliad y Pwyllgor, byddem yn croesawu eich sylwadau ysgrifenedig am amddiffyn plant a phobl ifanc rhag yr haul, yn yr ysgol neu mewn gofal, ac yn enwedig ynghylch yr hyn a ganlyn:

  1. A yw’r polisïau a’r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion ar amddiffyn plant rhag yr haul yn effeithiol o ran eu hamddiffyn rhag yr haul, ac, os nad ydynt, lle y mae angen gwella.
  2. A oes digon o ymwybyddiaeth o’r polisïau a’r canllawiau presennol ar amddiffyn pobl rhag yr haul, ac, os nad oes, beth yw’r ffordd orau i godi ymwybyddiaeth;
  3. A oes ffactorau sy’n rhwystro plant a phobl ifanc rhag defnyddio dulliau o amddiffyn eu hunain rhag yr haul mewn ysgolion, gan gynnwys eli haul, dillad addas, hetiau neu gysgod, er enghraifft o ran cost neu athrawon neu warchodwyr plant yn rhoi’r eli haul arnynt, ac, os felly, sut y gellid eu datrys.

Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, cyflwynwch ddisgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg neu Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â chynlluniau/polisïau iaith Gymraeg i ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth i’r cyhoedd.

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni at  PwyllgorPPL@cymru.gov.uk.

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech sicrhau bod eich tystiolaeth yn cyrraedd erbyn Dydd Gwener 9 Mawrth 2012. Efallai na fydd yn bosibl ystyried ymatebion a ddaw i lawr ar ôl y dyddiad hwn.

Datgelu Gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

Yn gywir

Christine Chapman AC

Cadeirydd